Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Tiwnisia |
Uwch y môr | 1,544 metr |
Cyfesurynnau | 36.052707°N 9.603081°E |
Cadwyn fynydd | Saharan Atlas |
Prif gadwyn mynydd Tiwnisia yng Ngogledd Affrica yw Dorsal Tiwnisia, neu'r Dorsal (Ffrangeg dorsale, "asgwrn cefn"). Mae'n estyniad dwyreiniol i gadwyn hir mynyddoedd yr Atlas, sy'n cychwyn ym Moroco yn yr Atlas Uchel ac yn rhedeg drwy Algeria.
Mae Dorsal Tiwnisia yn rhedeg trwy ganolbarth gogledd Tiwnisia ar gwrs gogledd-ddwyreiniol o Tébessa ar y ffin ag Algeria hyd Zaghouan a mynydd Djebel Bou Kornine i'r de o Diwnis. Mae'n cynnwys y pwynt uchaf yn y wlad, Jebel Chambi (1544m), i'r gorllewin o Kasserine a'r mynyddoedd i'r de-orllewin o El Kef, yn cynnwys Bwrdd Jugurtha. Mae'r Dorsal yn gorffen mewn cyfres o fryniau isel yng ngorynys Cap Bon.
Adwaenir gwastadeddau uchel ffrwythlon y Dorsal fel y Tell. I'r gogledd o'r ucheldir ceir dyffryn afon Medjerda sy'n gorwedd rhwng y Dorsal (a chymryd Mynyddoedd Tebersouk fel estyniad gogleddol o'r Dorsal) a mynyddoedd coediog y Kroumirie, sy'n ymestyn ar hyd arfordir y gogledd o'r ffin ag Algeria, ger Tabarka, i gyfeiriad Bizerte, ger Tiwnis, lle mae'n rhedeg allan mewn gwastadedd arfordirol isel.
I'r de o'r Dorsal ceir ardal eang o wastadedd di-goed, rhwng 200m-400m uwch lefel y môr. Dyma'r Sahel, sy'n enwog am ei holewydd.
Ceir sawl safle archaeolegol o gyfnod y Rhufeiniaid yn y Dorsal, e.e. Makthar, Haidra a Sufetula (ger Sbeitla). Y prif drefi yn yr ardal neu ar ei gyffiniau yw El Kef, Kasserine, Sbeitla a Kalaat Khasba.
Mae hinsawdd y Dorsal yn medru bod yn eithafol, gyda gaeafau oer pan welir eira weithiau ar y copaon a hafau crasboeth. Y gwanwyn yw'r amser gorau i deithio yno.